Mae Wikimedia UK yn cynnig cwrs hyfforddiant deuddydd o’r enw Hyfforddi’r Hyfforddwyr yng Nghaerdydd ar benwythnos y 1af a’r 2il o Chwefror yng Nghaerdydd. Cwrs cyffredinol ar fod yn hyfforddwr ydyw, ac nid ar sut i olygu’r Wicipedia. Darperir yr hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg, ond rhoddir blaenoriaeth i siaradwyr Cymraeg er mwyn gallu cynorthwyo gyda proseictau Wicipedia/Wikimedia yng Nghymru.
Ni chodir tâl am y cwrs ac hefyd mae posib i Wikimedia UK gyfrannu tuag at gostau teithio/llety os oes angen. I geisio am le, ychwanegwch eich enw ar waelod tudalen Saesneg y digwyddiad ar wici Wikimedia UK a disgrifad byr o’ch profiad hyd yma ar Wicipedia/hyfforddi (ddim yn angenrheidiol o flaen llaw) a’r hyn yr ydych yn fwriadu ei wneud unwaith i chi dderbyn hyfforddiant.
The post Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Caerdydd. 1-2/2/2014 appeared first on Hacio'r Iaith.